Home > Cymraeg
Amdanom Ni
Ein Rôl Ni
Caerdydd ar y Cyd sydd â chyfrifoldeb dros hybu prifddinas Cymru i weddill y byd. Rydym yn hybu cryfderau Caerdydd fel dinas ddelfrydol ar gyfer:
• Busnesau sydd am ehangu neu adleoli
• Cwmnïau a chymdeithasau sy’n chwilio am leoliad ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd
• Unigolion sy’n chwilio am rywle i ymweld, mynychu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr neu fwynhau ychydig o siopa i godi’r ysbryd
• Pobl sy'n chwilio am rywle i astudio a gwneud ymchwil
• Pobl sy’n gobeithio adleoli i weithio neu fyw yn rhanbarth dinas Caerdydd
Rydym yn hybu’r ddinas trwy ddefnyddio cymysgedd o weithgareddau marchnata a chyfathrebu sy’n cynnwys digwyddiadau, hysbysebu, noddi, post uniongyrchol, cysylltiadau cyhoeddus a thrwy ein Rhaglen Llysgennad Caerdydd.


































