Ein Bwrdd
Cafodd Caerdydd ar y Cyd ei ymgorffori ar 14 Mai 2007, ac fe gytunwyd i’w wneud yn bartneriaeth breifat gyhoeddus ‘ddim er elw’. Llywodraethir Caerdydd ar y Cyd gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr sy’n cael ei alw’n Fwrdd Strategol. Caiff gweithgareddau gweithredol a chynlluniau gwaith sy’n ymwneud â swyddogaethau craidd y cwmni eu cyfarwyddo gan Fyrddau Sector.
Y Bwrdd Strategol
Mae Bwrdd Strategol Caerdydd ar y Cyd yn cynnwys hyd at 12 Cyfarwyddwr, rhestrir yr aelodau presennol isod. Mae’r Bwrdd yn bennaf cyfrifol am gymeradwyo’r gyllideb flynyddol ac yn geidwad i Gynllun Busnes y cwmni. Mae ganddo rôl allweddol hefyd i wahodd cyfraniadau cyllidol gan noddwyr tuag at weithredu’r cwmni.
Cadeirydd - Adrian Clark
Daeth Adrian Clark yn gadeirydd ar 1 Ionawr 2012. Gweithiodd ar gyfer Legal and General am 32 mlynedd, gan dreulio'r 12 diwethaf yn datblygu gweithrediadau'r cwmni yn Ne Cymru.
Ef yw cadeirydd bwrdd Partneriaeth Fusnes Caerdydd ac mae’n eistedd ar fwrdd y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol. Mae Adrian hefyd yn aelod o fwrdd cynghori Action on Hearing Loss Cymru, a elwid yn Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar yn flaenorol.
Y nod yw ychwanegu’r hyn y gall Caerdydd ar y Cyd ei gyflawni drwy ehangu cyfranogiad busnesau yn y cwmni i ddenu rhagor o fuddsoddiad i’r rhanbarth dinesig.
Noreen Bray
Noreen Bray yw cadeirydd Good Relations Wales, sef cangen Cymru o’r Grŵp Bell Pottinger, un o wasanaethau ymgynghori cysylltiadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig. Sefydlodd Noreen swyddfa gyntaf y cwmni tu allan i Lundain yng Nghaerdydd bron i 20 mlynedd yn ôl.
Dywedodd ei bod yn falch iawn o gael ymuno â’r bwrdd ar adeg mor gyffrous i’r ddinas. “Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i allu datblygu fy ngyrfa yn y ddinas lle fy magwyd ac mae'n wych gweld cymaint o gynnydd mewn blynyddoedd diweddar i godi proffil Caerdydd.”

Suzi Clay
Suzi Clay yw Cyfarwyddwr Portffolio Manwerthu Land Securities yn nhîm y Ganolfan Siopa sy’n gyfrifol am gyd-fentrau pwysig y cwmni. Ymunodd â Land Securities yn 2006, i ddechrau yn y tîm warws fanwerthu lle rheolodd asedau portffolio. Cyn hynny gweithiodd yn adran eiddo B&Q am 6 mlynedd mewn amryw rolau, gan arwain amryw dimau gan gynnwys y tîm rheoli eiddo a’r tîm caffaeliadau siop newydd yn gyfrifol am orllewin y DU ac Iwerddon. Cyn hynny, roedd gan Suzi brofiad o weithio i Chartwell Land a Hiller Parker lle cymhwysodd fel syrfëwr siartredig.
Patrick Duffy
Mae Mr Duffy wedi bod yn astudio gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn dilyn ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr is-adran werthiannau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Ganwyd Patrick yn Iwerddon ac mae wedi bod yn preswylio ym Mro Morgannwg ers dros bum mlynedd.
Dr David Grant CBE, FREng, FIEE
Mae Dr Grant wedi bod yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ers 2001, yn dilyn nifer o swyddi arweiniol mewn busnesau rhyngwladol.
Bu’n gyfrifol am arwain y broses gyfuno rhwng Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gan greu prifysgol ymchwil ddwys, fawr sydd hefyd yn un o’r prifysgolion mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ymhlith myfyrwyr israddedig.
Ar hyn o bryd, mae Dr Grant yn Gadeirydd ar Bedwarawd Caerdydd, corff cynrychiolaidd dros addysg uwch yng Nghaerdydd.
Rob Jones
Mae Rob Jones yn Bartner yn swyddfa ymgynghorwyr eiddo byd-eang, Knight Frank LLP yng Nghaerdydd, lle mae’n gyfrifol am gyngor buddsoddi yn ogystal â gweithio ar nifer o brojectau adfywio.
Mae Rob wedi bod yn llwyddiannus wrth werthu a chaffael nifer o gyfleoedd buddsoddi blaenllaw ar gyfer cleientiaid cronfa pensiwn yng Nghaerdydd, a fu'n gyfrifol am weld Knight Frank yn rhan o Bartneriaeth Bae Caerdydd (lle bu'n gweithredu ar ran Morley Fund Management) sydd â gwerth presennol o tua £150 miliwn, Rhan 2 o Ganolfan y Mileniwm yn ogystal â Sgwâr Callaghan.
Dywedodd: ‘Bydd y datblygiadau llwyddiannus ym Mae Caerdydd a Sgwâr Callaghan, yn ogystal â Dewi Sant 2 yn gwneud gwahaniaeth mawr i Gaerdydd fel prifddinas yn Ewrop. Rhagwelir cynlluniau adfywio a pharc busnes pellach ac mae’n sylfaenol bwysig bod Caerdydd ar y Cyd yn codi proffil y ddinas er mwyn eu galluogi i gystadlu â dinasoedd Ewropeaidd eraill sydd hefyd yn awchu am dyfiant economaidd cynaliadwy.'
Y Cynghorydd Neil McEvoy
Y Cynghorydd Neil McEvoy yw Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yng Nghyngor Caerdydd ac mae ganddo gyfrifoldeb portffolio dros Ddatblygiad Economaidd ar Weithrediaeth y Cyngor. Mae’n cynrychioli Cyngor Caerdydd ar Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru ac mae hefyd yn Gadeirydd Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Cyf. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Bws Caerdydd ac yn gyfarwyddwr Business in Focus Ltd.
Yn flaenorol bu’r Cynghorydd McEvoy yn athro ac yn ddarlithydd. Mae'n gallu siarad Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl, ac yn ddysgwr Cymraeg uwch. Fe’i addysgwyd mewn prifysgolion yn Portsmouth, Nancy (Ffrainc) a Zaragoza (Sbaen), lle bu’n astudio ieithoedd modern, gwleidyddiaeth, economeg a hanes. Enillodd gymwysterau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.
Yn ogystal â’i swyddogaethau etholedig fel cynghorydd cymunedol dros y Tyllgoed a chynghorydd cymuned dros Sain Ffagan, mae’r Cynghorydd McEvoy wedi bod yn gweithredu’n gymunedol bob amser, gan gadeirio nifer o ymgyrchoedd amgylcheddol, yn ogystal â Fforwm y Tyllgoed a Phentre-baen ac yn flaenorol, Undeb Credyd y Tyllgoed. Mae’n gefnogwr brwd o’r Adar Gleision ac mae diddordeb ganddo yn y rhan fwyaf o chwaraeon, gan gynnwys bocsio a rygbi.

Richard Moremon BA (Anrh), DipCAM
Ymunodd Richard Moreman â Bwrdd yr Is-ganghellor ym mis Awst 2006 fel Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu UWIC. Fe’i magwyd ger Penarth a graddiodd o Brifysgol Morgannwg gyda gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Busnes. Mae ganddo hefyd Ddiploma o Sefydliad CAM (Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata) a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig.
Mae Richard yn cydlynu’r tîm Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, sy’n ymgymryd â mentrau beiddgar i’r brifysgol. Mae’n arwain y tîm cyfathrebu, marchnata a recriwtio myfyrwyr wrth fabwysiadu dull strategol a chydlynol o sicrhau bod brand UWIC bob tro’n cael ei gynrychioli i ddarpar fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.
Roger Pride
Roger yw Cyfarwyddwr Marchnata Llywodraeth Cymru. Mae’n arwain ar bob agwedd ar Farchnata Cymru ym meysydd twristiaeth, masnachu a buddsoddi, gan roi cyngor ar bob agwedd ar y strategaeth brand i Gymru. Mae ganddo hefyd gyfrifoldeb cyffredinol dros strategaeth Digwyddiadau yng Nghymru, a sicrhau’r budd mwyaf posibl ohoni. Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol yr holl staff marchnata ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn Brandio Cyrchfannau. Mae wedi cyd-olygu 3 llyfr pwysig ar frandio lleoliadau yn ogystal â chyfrannu at destunau brandio eraill.
Y Cynghorydd Mark Stephens
Mae’r Cynghorydd Mark Stephens wedi cynrychioli adran Plasnewydd yng Nghaerdydd ers 2004. Ef yw’r Aelod dros Gyllid ar Weithrediaeth y Cyngor ac mae'n cynrychioli'r Cyngor ar Fwrdd Business in Focus, Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru a Chonsortiwm Pwrcasu Cymru ac yn Gadeirydd Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Cyf a Chyd-fenter Medicentre Caerdydd.
Byrddau’r Sector
Rheolir cynlluniau gwaith y cwmni trwy dri Bwrdd Sector: Delwedd a Brandio, Datblygiad Economaidd, a Thwristiaeth. Mae pob Bwrdd Sector yn cynnwys arbenigwyr ar lefel uwch yn y meysydd perthnasol sy’n cynnwys Aelodau sy’n Buddsoddi a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill. Mae’r Byrddau Sector yn adolygu gweithredu gweithgareddau’r flwyddyn bresennol, gan alluogi’r Bwrdd Strategol i ganolbwyntio ar faterion ac arweiniad strategol ehangach.
Mae Grŵp Cyllid a Dibenion Cyffredinol y cwmni yn cynorthwyo’r Bwrdd Strategol i ystyried materion cyllid a chaffael ac yn gyfrifol am weithredu fframwaith priodol ar gyfer dirprwyaeth gyllidol a systemau rheoli.









.jpg)






















