Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Cymraeg > Gwnewch Eich Rhan

Gwnewch Eich Rhan

Mae tair prif ffordd o Wneud Eich Rhan i hyrwyddo Caerdydd. Yn gyntaf, defnyddiwch frand Caerdydd a’r deunydd marchnata cefnogol yr ydym wedi’u cynhyrchu i helpu’r ddinas farchnata ei hun. Datblygwyd brand Caerdydd yn 2008, ac mae’n prysur gael ei adnabod o fewn a thu hwnt i’r ranbarth dinas.  I gael rhagor o wybodaeth am y brand, cliciwch yma.

Mae’r deunydd marchnata ychwanegol yn cynnwys:

Canllaw Hanfodol
Canllaw ar Ble i Aros

Cyfeirlyfr Lleoliadau
DVD Hyrwyddol
Canllaw i Fuddsoddwyr
Llawlyfr Hyrwyddo Buddsoddiad
Cardiau post â brand Caerdydd
Bathodynnau pin
Llyfrgell ddelweddau
Pecynnau cyfryngau


Os hoffech gael gafael ar y deunydd uchod, gallwch wneud hynny drwy ein gwefan, neu trwy gysylltu ag Anna Garton drwy e-bost anna.garton@cardiffandco.com
 


Yn ail, beth am ystyried bod yn Llysgennad dros Gaerdydd? (Mae’n ddrwg gennym, nid yw’r dudalen hon ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.) Lansiwyd Rhaglen Llysgennad Caerdydd ym mis Mawrth 2009 ac mae unigolion blaenllaw, fel Henry Engelhardt o Admiral Insurance a Peter Griffiths o Gymdeithas Tai y Principality wedi ymuno’n barod i hyrwyddo'r ddinas.  I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Llysgennad Caerdydd, cliciwch yma.
Y ffordd olaf y gallwch Wneud Eich Rhan yw drwy ystyried buddsoddi yng Nghaerdydd ar y Cyd.  I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i’r tudalennau ar statws Aelodau sy’n Buddsoddi a Nawdd. (Mae’n ddrwg gennym, nid yw’r dudalen hon ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.)