Ein Buddsoddwyr Prifysgol Caerdydd Maes Awyr Caerdydd J R Smart Partneriaeth Dewi Sant Macob Athrofa Prifysgol Cymru
Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Cymraeg > Ein Buddsoddwyr

Ein Buddsoddwyr

Mae sylfeini Caerdydd ar y Cyd i’w canfod mewn gweithio mewn partneriaeth a chydweithio, gan uno’r gorau o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat er budd Caerdydd. Mae cyfranogiad a chynhwysiant y sector preifat yn bwysig iawn er llwyddiant y cwmni yn y dyfodol, gan ddarparu Adnoddau, arbenigedd ac arweiniad i alluogi’r ddinas i barhau i lwyddo y tu hwnt i’r disgwyliadau.

Mae Caerdydd ar y Cyd yn canolbwyntio ar ddarparu buddion pendant ac uniongyrchol ar gyfer buddsoddwyr sy’n bartneriaid. Wrth gymryd rhan fel buddsoddwyr, mae busnesau lleol amlwg yn cael y cyfle i ddylanwadu ar y ffordd mae Caerdydd yn cael ei chyflwyno i’r byd y tu allan a helpu i lunio hynny. Bydd buddsoddwyr hefyd yn cael budd o fentrau ar y cyd i hybu eu busnesau, ar yr un pryd ac yn yr un arena â Caerdydd ar y Cyd, ac ar draws amrediad o sectorau targed allweddol. Mae Caerdydd ar y Cyd yn gyfle cyffrous sy’n darparu safle unigryw ar gyfer busnesau lleol i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol drwy gefnogi dyfodol Caerdydd a'i phobl.

Bydd llwyddiant Caerdydd ar y Cyd yn cael ei fesur wrth ei allu i ddenu buddsoddiad y sector preifat lleol. Erbyn diwedd Cynllun Busnes Strategol 3 blynedd presennol y Cwmni, anelir at fod wedi sicrhau £1.13miliwn o fuddsoddiad/incwm a enillwyd o’r sector preifat, gan fwy na chyfateb â’r cyfraniadau wnaed gan Gyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd, a thrwy wneud hynny, ymgorffori gwreiddiau'r Cwmni yn sector preifat a sector masnachol y ddinas.

Mae’r Cwmni wedi cael llwyddiant sylweddol hyd yn hyn ac mae’n falch o gyflwyno ei aelodau sylfaenwyr sydd wedi dangos eu hymrwymiad tuag at y ddinas a’i llwyddiant i’r dyfodol.


 

Maes Awyr CaerdyddMaes Awyr Caerdydd

Maes Awyr Caerdydd yw’r porth i Gymru, gan ddelio gyda thua 2 filiwm o deithwyr y flwyddyn gyda thros 50 taith uniongyrchol a 800 lleoliad cysylltu. Mae’r maes awyr wedi ei leoli ym Mro Morgannwg, 10 milltir o’r M4 a 12 milltir o Ganol Dinas Caerdydd. Ymhlith y cyrchfannau domestig mae Aberdeen, Ynys Môn, Belfast, Caeredin, Glasgow, Jersey a Newcastle. Mae’n bosib hedfan yn rhyngwladol i dros 40 lleoliad, gyda chysylltiadau ar gael o wahanol ganolfannau gan gynnwys Amsterdam Schiphol a Paris Charles de Gaulle. Gellir hedfan gydag Aer Arann, bmibaby, Eastern Airways, Flybe, Highland Airways, KLM, Thomas Cook Airlines a Thomson Airways.
 


 

Prifysgol CaerdyddPrifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw y DU ac wedi ei gosod ymhlith 100 prifysgolion gorau’r byd.  Mae'r dysgu, ymchwil a chynhwysiant safon uchel sydd yno'n denu myfyrwyr a staff dros y DU a ledled y byd.   Gwobrwywyd Syr Martin Evans â Gwobr Nobel i Feddyginiaeth yn 2007 ac ef yw un o’r ddau Llawryfolion Nobel ymhlith y tua 6,000 o staff.  Roedd gan y Brifysgol tua 25,000 o fyfyrwyr ac incwm o £370M llynedd, pan yr enillodd hefyd ei thrydydd Gwobr y Frenhines am Ragoriaeth mewn addysg uwch.
 
 


Partneriaeth Dewi SantPartneriaeth Dewi Sant

Mae Partneriaeth Dewi Sant yn fenter ar y cyd rhwng Land Securities a Chanolfannau Siopa Capital sydd wedi eu sefydlu i ddatblygu tirnod newydd gwerth £750m, canolfan siopa 1 miliwn troedfedd sgwâr yng nghanol Dinas Caerdydd.
 
 

UWICPrifysgol Fetropolitan Caerdydd

Mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, prifysgol fetropolitanaidd Caerdydd. Gan ganolbwyntio’n fanwl ar gyrsiau sy’n berthnasol i broffesiynoldeb a gyrfa, mae 95% o fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dod o hyd i Gyflogaeth neu’n ymgymryd ag astudiaeth bellach o fewn chwe mis i gwblhau’u hastudiaethau.  Mae iddi hefyd enw da rhyngwladol sydd ar gynnydd, gyda myfyrwyr yn dod o dros 128 o wledydd.
Mae buddsoddiad Prifysgol Fetropolitan Caerdydd o dros £50m mewn adnoddau fel y Ganolfan Ddiwydiant Bwyd gyfoes, a chartref newydd Ysgol Reoli Caerdydd yn dangos ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.  Mae’r buddsoddiadau hyn hefyd yn atgyfnerthu’r ffaith fod Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn falch i fod yn rhan arwyddocaol o fywyd yng Nghaerdydd.



Cyngor Caerdydd Cyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi gwneud ymrwymiad cryf i ddyfodol Caerdydd ar y Cyd drwy ddarparu mwy na £1.5m o nawdd dros y 3 blynedd nesaf.

 

Sut i ddyfod yn Fuddsoddwr yn Cardiff & Co

Er mwyn trafod dod yn Aelod Buddsoddi yn Cardiff & Co, cysylltwch â ni ar investor@cardiffco.com neu ffoniwch 029 2087 1847.


Cefnogwyr Cardiff & Co.

Mae Bws Caerdydd yn cefnogi gwaith Cardiff & Co drwy hybu’r cwmni ar ei bysus deulawr cyfoes. Mae cadeirydd Cardiff & Co, Bill Savage a phobl fusnes amlwg eraill Caerdydd ac academyddion i’w gweld ar ochrau’r bysiau fel rhan o’r hyrwyddo ar y cyd. Mae Bws Caerdydd hefyd yn ymddangos yn amlwg yn adran ‘Sut i fynd o gwmpas’ ar wefan ymwelwyr y ddinas visitcardiff.com.
 
Dywedodd Bill Savage: “Mae gennym berthynas waith agos gyda Bws Caerdydd, sy’n darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i fusnesau, cymudwyr ac ymwelwyr â rhanbarth ein dinas.”